Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 16 Gorffennaf 2018
Amser:
13.45 -
17.18
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4753
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Vikki Howells AC Adam Price AC Lee Waters AC Mike Hedges AC (yn lle Rhianon Passmore AC) |
Tystion: |
Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Simon Dean, Llywodraeth Cymru Steve Elliot, Llywodraeth Cymru Frances Duffy, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru Andrew Griffiths, NHS Wales Informatics Service (NWIS) |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas CBE - Archwilydd Cyffredinol Cymru Mark Jeffs Dave Thomas |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Owen Holzinger (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC a Rhianon Passmore AC. Roedd Mike Hedges AC yn bresennol fel dirprwy.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Weithredwr y GIG, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr y GIG; a Steve Elliot, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i weithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.
3.2 Cytunodd Dr Goodall i anfon gwybodaeth ychwanegol am nifer o faterion a godwyd.
4.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Weithredwr y GIG, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Frances Duffy, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Llywodraeth Cymru; ac Andrew Griffiths, Prif Weithredwr, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i Wasanaethau Gwybodeg GIG Cymru.
4.2 Cytunodd Dr Goodall ac Andrew Griffiths i anfon rhagor o wybodaeth ynglŷn â nifer o bwyntiau a godwyd.
5.1 Cynhaliodd yr Aelodau sesiwn ffarwél gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru cyn iddo ymddeol ar 20 Gorffennaf 2018.
5.2 Nododd Cadeirydd y Pwyllgor ei ddiolch i Huw am yr holl gefnogaeth a chyngor a roddodd i holl Gadeiryddion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ystod ei gyfnod fel Archwilydd Cyffredinol, a dymunodd ymddeoliad hir iddo yn llawn hapusrwydd ac iechyd. Dywedodd wrth yr Aelodau ei fod yn gwneud datganiad llawn yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 20 Gorffennaf ond gan mai hwn oedd eitem gyhoeddus olaf Huw yn y Pwyllgor, roedd am nodi ei ddiolch ar y cofnod.
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a gafwyd.
8.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a gafwyd.